49 Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Pam roedd rhaid i chi chwilio? Wnaethoch chi ddim meddwl y byddwn i'n siŵr o fod yn nhŷ fy Nhad?”
50 Ond doedd ei rieni ddim wir yn deall beth roedd yn ei olygu.
51 Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud.
52 Tyfodd Iesu'n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.