10 Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl y siâr roedd y tenantiaid i fod i'w rhoi iddo. Ond dyma'r tenantiaid yn curo'r gwas a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
11 Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n curo hwnnw hefyd a'i gam-drin a'i anfon i ffwrdd heb ddim.
12 Pan anfonodd was arall eto, dyma nhw'n anafu hwnnw'n ddifrifol a'i daflu allan.
13 “‘Beth wna i?’ meddai'r dyn oedd biau'r winllan. ‘Dw i'n gwybod! Anfona i fy mab annwyl atyn nhw. Byddan nhw'n ei barchu e.’
14 “Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain!’
15 Felly dyma nhw'n ei daflu allan o'r winllan a'i ladd. Felly beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud iddyn nhw?
16 Bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid hynny ac yn rhoi'r winllan i bobl eraill.”Pan glywodd y bobl y stori yma, eu hymateb oedd, “Na! Byth!”