22 Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
23 Ond roedd Iesu'n gweld eu bod yn ceisio'i dwyllo.
24 “Dewch â darn arian yma,” meddai wrthyn nhw. “Llun pwy sydd arno? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”“Cesar,” medden nhw.
25 “Felly,” meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”
26 Felly roedden nhw wedi methu ei gael i ddweud unrhyw beth o'i le o flaen y bobl. Roedd ei ateb wedi eu syfrdanu'n llwyr – doedden nhw ddim yn gallu dweud dim.
27 Dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn i Iesu. (Nhw ydy'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.)
28 “Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le