34 Atebodd Iesu, “Yn y bywyd yma mae pobl yn priodi.
35 Ond yn yr oes sydd i ddod, fydd pobl ddim yn priodi – sef y bobl hynny sy'n cael eu cyfri'n deilwng i fod yn rhan ohoni ac wedi codi yn ôl yn fyw.
36 A fyddan nhw ddim yn marw eto. Byddan nhw yr un fath â'r angylion yn hynny o beth. Maen nhw'n blant Duw wedi eu codi yn ôl i fywyd newydd.
37 A bydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw! Mae hyd yn oed Moses yn dangos fod hynny'n wir! Yn yr hanes am y berth yn llosgi mae'n dweud mai'r Arglwydd Dduw ydy ‘Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob’.
38 Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!”
39 Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ymateb, “Go dda, athro! Clywch, clywch!”
40 O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.