13 Ond bydd y cwbl yn gyfle i chi dystio amdana i.
14 Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud wrth amddiffyn eich hunain.
15 Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!
16 Byddwch yn cael eich bradychu gan eich rhieni, eich brodyr a'ch chwiorydd, eich perthnasau eraill a'ch ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi yn cael eich lladd.
17 Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.
18 Ond byddwch chi'n hollol saff;
19 wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.