2 Yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn.
3 “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy yn y blwch na neb arall.
4 Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben; ond yn ei thlodi rhoddodd y wraig yna y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
5 Roedd rhai o'i ddisgyblion yn tynnu sylw at waith cerrig hardd y deml a'r meini coffa oedd yn ei haddurno. Ond dyma Iesu'n dweud,
6 “Mae'r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”
7 A dyma nhw'n gofyn iddo, “Pryd mae hyn i gyd yn mynd i ddigwydd, Athro? Fydd unrhyw rybudd cyn i'r pethau yma ddigwydd?”
8 Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, a dweud, ‘Fi ydy'r Meseia’ a ‘Mae'r diwedd wedi dod’. Peidiwch eu dilyn nhw.