34 “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu'ch bywydau yn gwneud dim byd ond joio, meddwi a phoeni am bethau materol, neu bydd y diwrnod hwnnw yn eich dal chi'n annisgwyl –
35 bydd fel cael eich dal mewn trap. A bydd yn digwydd i bawb drwy'r byd i gyd.
36 Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi'n gallu osgoi'r pethau ofnadwy sy'n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.”
37 Roedd Iesu yn dysgu pobl yn y deml bob dydd, ac yna gyda'r hwyr yn mynd yn ôl i dreulio'r nos ar ochr Mynydd yr Olewydd.
38 Yn gynnar bob bore roedd tyrfa o bobl yn casglu at ei gilydd i wrando arno yn y deml.