9 Pan fyddwch yn clywed am ryfeloedd a chwyldroadau, peidiwch dychryn. Mae'r pethau yma'n siŵr o ddigwydd gyntaf, ond fydd diwedd y byd ddim yn digwydd yn syth wedyn.”
10 Dwedodd wrthyn nhw, “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.
11 Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o'r nefoedd yn rhybuddio pobl.
12 “Ond cyn i hyn i gyd ddigwydd, byddwch chi'n cael eich erlid a'ch cam-drin. Cewch eich llusgo o flaen y synagogau a'ch rhoi yn y carchar. Cewch eich cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi o flaen brenhinoedd a llywodraethwyr.
13 Ond bydd y cwbl yn gyfle i chi dystio amdana i.
14 Felly peidiwch poeni ymlaen llaw beth i'w ddweud wrth amddiffyn eich hunain.
15 Bydda i'n rhoi'r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy'n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!