16 Dw i'n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i'r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.”
17 Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a'i rannu rhyngoch.
18 Dw i'n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.”
19 Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
20 Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
21 Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi.
22 Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi ei drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!”