19 Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
20 Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt ar eich rhan chi.
21 Ond mae'r un sy'n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi.
22 Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi ei drefnu, ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i!”
23 Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai'n gwneud y fath beth.
24 Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.
25 Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛!