25 Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy'n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛!
26 Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai'r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai'r un sy'n arwain fod fel un sy'n gwasanaethu.
27 Pwy ydy'r pwysica fel arfer? Ai'r sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r sawl sy'n gwasanaethu? Y sawl sy'n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy'n gwasanaethu.
28 “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy'r treialon,
29 a dw i'n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi.
30 Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i'n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel.
31 “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau eich cymryd chi i gyd i'ch ysgwyd a'ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith.