4 Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw.
5 Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw'n addo rhoi arian iddo.
6 Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas.
7 Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan roedd rhaid aberthu oen y Pasg).
8 Dyma Iesu'n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda'n gilydd,” meddai wrthyn nhw.
9 “Ble rwyt ti am i ni fynd i'w baratoi?” medden nhw wrtho.
10 Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i'r ddinas bydd dyn yn dod i'ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl