47 Wrth iddo ddweud hyn, dyma dyrfa yn dod ato. Jwdas, un o'r deuddeg disgybl oedd yn eu harwain, ac aeth at Iesu i'w gyfarch â chusan.
48 Ond dyma Iesu'n gofyn iddo, “Wyt ti'n bradychu Mab y Dyn â chusan?”
49 Pan sylweddolodd dilynwyr Iesu beth oedd ar fin digwydd, dyma nhw'n gweiddi, “Arglwydd, wyt ti eisiau i ni ymladd gyda'r cleddyfau yma?”
50 A dyma un ohonyn nhw yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd.
51 “Stopiwch! Dyna ddigon!” meddai Iesu. Yna cyffyrddodd glust y dyn a'i iacháu.
52 Yna dwedodd wrth y prif offeiriaid, swyddogion diogelwch y deml a'r arweinwyr eraill oedd wedi dod i'w ddal, “Ydw i'n arwain gwrthryfel neu rywbeth? Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a'r pastynau yma?
53 Pam na ddalioch chi fi yn y deml? Roeddwn i yno gyda chi bob dydd! Ond dyma'ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau'r tywyllwch yn rheoli.”