62 Aeth allan yn beichio crïo.
63 Dyma'r milwyr oedd yn cadw Iesu yn y ddalfa yn dechrau gwneud hwyl ar ei ben a'i guro.
64 Dyma nhw'n rhoi mwgwd arno ac yna ei daro a dweud wrtho, “Tyrd, Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”
65 Roedden nhw'n ei regi ac yn hyrddio pob math o enllibion ato.
66 Pan oedd hi'n gwawrio dyma'r Sanhedrin yn cyfarfod, hynny ydy, yr arweinwyr oedd yn brif-offeiriaid neu'n arbenigwyr yn y Gyfraith. A dyma Iesu'n cael ei osod o'u blaenau nhw.
67 “Dywed wrthon ni ai ti ydy'r Meseia,” medden nhw. Atebodd Iesu, “Fyddech chi ddim yn credu taswn i yn dweud.
68 A taswn i'n gofyn y cwestiwn i chi, wnaech chi ddim ateb.