11 Yna dyma Herod a'i filwyr yn dechrau gwneud hwyl am ei ben a'i sarhau. Dyma nhw'n ei wisgo mewn mantell grand, a'i anfon yn ôl at Peilat.
12 Cyn i hyn i gyd ddigwydd roedd Herod a Peilat wedi bod yn elynion, ond dyma nhw'n dod yn ffrindiau y diwrnod hwnnw.
13 Dyma Peilat yn galw'r prif offeiriaid a'r arweinwyr eraill, a'r bobl at ei gilydd,
14 a chyhoeddi ei ddedfryd: “Daethoch â'r dyn yma i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn arwain gwrthryfel. Dw i wedi ei groesholi o'ch blaen chi i gyd, a dw i'n ei gael yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau.
15 Ac mae'n amlwg fod Herod wedi dod i'r un casgliad gan ei fod wedi ei anfon yn ôl yma. Dydy e ddim wedi gwneud unrhyw beth i haeddu marw.
16 Felly dysga i wers iddo â'r chwip ac yna ei ollwng yn rhydd.”
18 Dyma nhw i gyd yn gweiddi gyda'i gilydd, “Lladda fe! Gollwng Barabbas yn rhydd!”