23 Ond roedd y dyrfa'n gweiddi'n uwch ac yn uwch, ac yn mynnu fod rhaid i Iesu gael ei groeshoelio, ac yn y diwedd cawson nhw eu ffordd.
24 Dyma Peilat yn penderfynu rhoi beth roedden nhw eisiau iddyn nhw.
25 Rhyddhaodd Barabbas, y dyn oedd yn y carchar am derfysg a llofruddiaeth, a dedfrydu Iesu i farwolaeth fel roedden nhw eisiau iddo wneud.
26 Wrth iddyn nhw arwain Iesu i ffwrdd roedd Simon o Cyrene ar ei ffordd i mewn i'r ddinas, a dyma nhw'n ei orfodi i gario croes Iesu.
27 Roedd tyrfa fawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys nifer o wragedd yn galaru ac wylofain.
28 Ond dyma Iesu'n troi ac yn dweud wrthyn nhw, “Ferched Jerwsalem, peidiwch crïo drosto i; crïwch drosoch eich hunain a'ch plant.
29 Mae'r amser yn dod pan fyddwch yn dweud, ‘Mae'r gwragedd hynny sydd heb blant wedi eu bendithio'n fawr! – y rhai sydd erioed wedi cario plentyn yn y groth na bwydo plentyn ar y fron!’