36 Roedd y milwyr hefyd yn gwneud sbort am ei ben. Roedden nhw'n cynnig gwin sur rhad iddo
37 ac yn dweud, “Achub dy hun os mai ti ydy Brenin yr Iddewon!”
38 Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON.
39 A dyma un o'r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau ei regi hefyd: “Onid ti ydy'r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!”
40 Ond dyma'r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd?
41 Dŷn ni'n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le.”
42 Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu.”