38 Achos roedd arwydd uwch ei ben yn dweud: DYMA FRENIN YR IDDEWON.
39 A dyma un o'r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau ei regi hefyd: “Onid ti ydy'r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!”
40 Ond dyma'r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd?
41 Dŷn ni'n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o'i le.”
42 Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di'n teyrnasu.”
43 Dyma Iesu'n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
44 Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy'r wlad i gyd hyd dri o'r gloch y p'nawn.