4 Yna dyma Peilat yn troi at y prif offeiriaid a'r dyrfa ac yn cyhoeddi, “Dw i ddim yn credu fod unrhyw sail i ddwyn cyhuddiad yn erbyn y dyn yma.”
5 Ond roedden nhw'n benderfynol, “Mae'n creu helynt drwy Jwdea i gyd wrth ddysgu'r bobl. Dechreuodd yn Galilea, a nawr mae wedi dod yma.”
6 “Felly un o Galilea ydy e?” meddai Peilat.
7 Pan sylweddolodd hynny, anfonodd Iesu at Herod Antipas, gan ei fod yn dod o'r ardal oedd dan awdurdod Herod. (Roedd Herod yn digwydd bod yn Jerwsalem ar y pryd.)
8 Roedd Herod wrth ei fodd ei fod yn cael cyfle i weld Iesu. Roedd wedi clywed amdano ers amser maith, ac wedi bod yn gobeithio cael ei weld yn gwneud rhywbeth gwyrthiol.
9 Gofynnodd un cwestiwn ar ôl y llall i Iesu, ond roedd Iesu'n gwrthod ateb.
10 A dyna lle roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei gyhuddo'n ffyrnig.