46 A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.
47 Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma'n siŵr o fod yn ddieuog!”
48 A phan welodd y dyrfa oedd yno beth ddigwyddodd, dyma nhw'n troi am adre'n galaru.
49 Ond arhosodd ei ffrindiau agos i wylio o bell beth oedd yn digwydd – gan gynnwys y gwragedd oedd wedi ei ddilyn o Galilea.
50 Roedd yna ddyn o'r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o'r Sanhedrin Iddewig,
51 ond doedd e ddim wedi cytuno â'r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu.
52 Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.