19 “Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi ei weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol.
20 Ond dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a'i groeshoelio.
21 Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy …
22 Yn gynnar y bore ma dyma rai o'r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod,
23 ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu'n fyw.
24 Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.”
25 “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau oedd e'n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi?