24 Felly dyma rai o'r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.”
25 “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau oedd e'n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi'n ei chael hi mor anodd i gredu'r cwbl ddwedodd y proffwydi?
26 Maen nhw'n dweud fod rhaid i'r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!”
27 A dyma Iesu'n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a'r proffwydi eraill wedi ei ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd.
28 Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu'n dweud ei fod e'n mynd yn ei flaen.
29 Ond dyma nhw'n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae'n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.
30 Pan oedden nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a'i rhannu iddyn nhw.