39 Edrychwch ar fy nwylo a'm traed i. Fi sydd yma go iawn! Cyffyrddwch fi. Byddwch chi'n gweld wedyn mai dim ysbryd ydw i. Does gan ysbryd ddim corff ag esgyrn fel hyn!”
40 Roedd yn dangos ei ddwylo a'i draed iddyn nhw wrth ddweud y peth.
41 Roedden nhw'n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?”
42 Dyma nhw'n rhoi darn o bysgodyn wedi ei goginio iddo,
43 a dyma Iesu'n ei gymryd a'i fwyta o flaen eu llygaid.
44 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o'n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir.”
45 Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.