41 Roedden nhw'n teimlo rhyw gymysgedd o lawenydd a syfrdandod, ac yn dal i fethu credu'r peth. Felly gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Oes gynnoch chi rywbeth i'w fwyta yma?”
42 Dyma nhw'n rhoi darn o bysgodyn wedi ei goginio iddo,
43 a dyma Iesu'n ei gymryd a'i fwyta o flaen eu llygaid.
44 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o'n i gyda chi, dwedais fod rhaid i'r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau'r Proffwydi a'r Salmau, ddod yn wir.”
45 Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.
46 “Mae'r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
47 Rhaid cyhoeddi'r neges yma yn Jerwsalem a thrwy'r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw'n barod i faddau iddyn nhw.