45 Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.
46 “Mae'r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
47 Rhaid cyhoeddi'r neges yma yn Jerwsalem a thrwy'r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw'n barod i faddau iddyn nhw.
48 Chi ydy'r llygad-dystion sydd wedi gweld y cwbl!
49 Felly dw i'n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi – arhoswch yma yn y ddinas nes i'r Ysbryd Glân ddod i lawr a'ch gwisgo chi gyda nerth.”
50 Yna dyma Iesu'n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i'w bendithio nhw
51 cafodd ei gymryd i ffwrdd i'r nefoedd,