9 Felly dyma nhw'n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr unarddeg disgybl a phawb arall.
10 Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a nifer o wragedd eraill i ddweud yr hanes wrth yr apostolion.
11 Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw'n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr.
12 Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i'r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno'n wag. Gadawodd y bedd yn methu'n lân a deall beth oedd wedi digwydd.
13 Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem.
14 Roedden nhw'n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd.
15 Wrth i'r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu'n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw.