19 Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi eu gwneud.
20 A'r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar.
21 Pan oedd Ioan wrthi'n bedyddio'r bobl i gyd, dyma Iesu'n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored
22 a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
23 Roedd Iesu tua tri deg mlwydd oed pan ddechreuodd deithio o gwmpas yn dysgu'r bobl a iacháu. Roedd pawb yn cymryd ei fod yn fab i Joseff, oedd yn fab i Eli,
24 mab Mathat, mab Lefi, mab Melci, mab Janai, mab Joseff,
25 mab Matathïas, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Nagai,