8 Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi'n byw eich bod wedi newid go iawn. A pheidiwch meddwl eich bod chi'n saff drwy ddweud, ‘Abraham ydy'n tad ni.’ Gallai Duw droi'r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham!
9 Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!”
10 “Felly, beth ddylen ni ei wneud?” gofynnodd y dyrfa.
11 Atebodd Ioan, “Os oes gynnoch chi ddwy gôt, rhowch un ohonyn nhw i berson tlawd sydd heb un o gwbl. A gwnewch yr un fath gyda bwyd.”
12 Roedd rhai oedd yn casglu trethi i'r Rhufeiniaid yn dod i gael eu bedyddio hefyd, a dyma nhw'n gofyn iddo, “Beth ddylen ni ei wneud, athro?”
13 “Peidio casglu mwy o arian nag y dylech chi,” meddai wrthyn nhw.
14 “A beth ddylen ni ei wneud?” meddai rhyw filwyr ddaeth ato.“Peidiwch dwyn arian oddi ar bobl”, oedd ateb Ioan iddyn nhw, “a pheidiwch cyhuddo pobl ar gam er mwyn gwneud arian. Byddwch yn fodlon ar eich cyflog.”