18 “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid, a pobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl, a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
19 a dweud hefyd fod y flwyddyn i'r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”
20 Caeodd y sgrôl a'i rhoi yn ôl i'r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno.
21 Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”
22 Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
23 Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi ei glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
24 “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu!