22 Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.
23 Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi ei glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”
24 “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu!
25 Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd.
26 Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffat yn ardal Sidon!
27 Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
28 Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn.