26 Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffat yn ardal Sidon!
27 Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”
28 Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn.
29 Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi ei hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn,
30 ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.
31 Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth.
32 Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno.