15 Ond roedd y newyddion amdano yn mynd ar led fwy a mwy. Roedd tyrfaoedd mawr o bobl yn dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu.
16 Ond byddai Iesu'n aml yn mynd o'r golwg i leoedd unig yn yr anialwch i weddïo.
17 Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi'n dysgu'r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem). Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl.
18 A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw'n ceisio mynd i mewn i'w osod i orwedd o flaen Iesu.
19 Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw'n mynd i fyny ar y to ac yn tynnu teils o'r to i'w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu.
20 Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.”
21 Dyma'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”