22 Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu?
23 Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud – ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’?
24 Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
25 A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a'r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw.
26 Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.
27 Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o'r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho;
28 a dyma Lefi'n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl.