11 Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.
12 Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw.
13 Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol:
14 Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,
15 Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛),
16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.
17 Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.