14 Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,
15 Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Simon (oedd yn cael ei alw ‛y Selot‛),
16 Jwdas fab Iago, a Jwdas Iscariot a drodd yn fradwr.
17 Yna aeth i lawr i le gwastad. Roedd tyrfa fawr o'i ddilynwyr gydag e, a nifer fawr o bobl eraill o bob rhan o Jwdea, ac o Jerwsalem a hefyd o arfordir Tyrus a Sidon yn y gogledd.
18 Roedden nhw wedi dod i wrando arno ac i gael eu hiacháu. Cafodd y rhai oedd yn cael eu poeni gan ysbrydion drwg eu gwella,
19 ac roedd pawb yn ceisio'i gyffwrdd am fod nerth yn llifo ohono ac yn eu gwella nhw i gyd.
20 Yna trodd Iesu at ei ddisgyblion, a dweud:“Dych chi sy'n dlawd wedi'ch bendithio'n fawr,oherwydd mae Duw yn teyrnasu yn eich bywydau.