27 “Dw i'n dweud wrthoch chi sy'n gwrando: Carwch eich gelynion, gwnewch ddaioni i'r bobl sy'n eich casáu chi,
28 bendithiwch y rhai sy'n eich melltithio chi, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich cam-drin chi.
29 Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar un foch, tro'r foch arall ato. Os ydy rhywun yn dwyn dy gôt, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd.
30 Rho i bawb sy'n gofyn am rywbeth gen ti, ac os bydd rhywun yn cymryd rhywbeth piau ti, paid â'i hawlio yn ôl.
31 Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi.
32 “Pam dylech chi gael eich canmol am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny!
33 Neu am wneud ffafr i'r rhai sy'n gwneud ffafr i chi? Mae ‛pechaduriaid‛ yn gwneud hynny hefyd!