3 Atebodd Iesu, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i ddilynwyr yn llwgu?
4 Aeth i mewn i dŷ Dduw a chymryd y bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”
5 Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”
6 Ar ryw Saboth arall, roedd Iesu'n dysgu yn y synagog, ac roedd yno ddyn oedd â'i law dde yn ddiffrwyth.
7 Roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wylio'n ofalus – oedd e'n mynd i iacháu'r dyn yma ar y Saboth? Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.
8 Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.
9 “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”