39 Yna dyma Iesu'n dyfynnu'r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd!
40 Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro – ond ar ôl cael ei hyfforddi'n llawn mae'n dod yn debyg i'w athro.
41 “Pam rwyt ti'n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!?
42 Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu'r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti'n methu'n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna'r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi'n gweld yn ddigon clir i dynnu'r sbecyn allan o lygad y person arall.
43 “Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael.
44 Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri.
45 Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi ei storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.