8 Ond roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau nhw, a galwodd y dyn ato, “Tyrd yma i sefyll o flaen pawb.” Felly cododd ar ei draed a sefyll lle gallai pawb ei weld.
9 “Gadewch i mi ofyn i chi,” meddai Iesu wrth y rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ddinistrio bywyd?”
10 Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un, ac yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Gwnaeth hynny a chafodd y llaw ei gwella'n llwyr.
11 Roedden nhw'n wyllt gynddeiriog, a dyma nhw'n dechrau trafod gyda'i gilydd pa ddrwg y gallen nhw ei wneud i Iesu.
12 Rhyw ddiwrnod aeth Iesu i ben mynydd i weddïo, a buodd wrthi drwy'r nos yn gweddïo ar Dduw.
13 Pan ddaeth hi'n fore, galwodd ei ddisgyblion ato a dewis deuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol:
14 Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr), Andreas (brawd Pedr) Iago, Ioan, Philip, Bartholomeus,