1 Ar ôl i Iesu orffen dweud hyn i gyd wrth y bobl, aeth i mewn i Capernaum.
2 Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono.
3 Pan glywodd y swyddog Rhufeinig am Iesu, anfonodd rai o'r arweinwyr Iddewig ato i ofyn iddo ddod i iacháu'r gwas.
4 Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di.
5 Mae e'n caru ein pobl ni ac wedi adeiladu synagog i ni,” medden nhw.
6 Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i.
7 Dyna pam wnes i ddim dod i dy gyfarfod di fy hun. Does ond rhaid i ti ddweud, a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu.