14 Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!”
15 A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam.
16 Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.”
17 Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.
18 Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud.
19 Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
20 Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’”