16 Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.”
17 Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.
18 Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud.
19 Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”
20 Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’”
21 Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd.
22 Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!