35 Gallwch nabod doethineb go iawn yn ôl pa mor gyson fydd pobl. Dych chi mor anghyson, mae'ch ffolineb chi'n amlwg!”
36 Roedd un o'r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i'w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd.
37 Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr.
38 Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crïo. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
39 Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd – dydy hi'n ddim byd ond pechadures!”
40 Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.
41 “Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall.