8 Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”
9 Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!”
10 Dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon ato yn mynd yn ôl i'r tŷ, a dyna lle roedd y gwas yn holliach!
11 Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e.
12 Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd.
13 Pan welodd Iesu'r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crïo.”
14 Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!”