1 Am beth amser wedyn roedd Iesu'n teithio o gwmpas y trefi a'r pentrefi yn cyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e,
2 a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw'n Magdalen – roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi;
3 Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion.
4 Dwedodd y stori yma pan oedd tyrfa fawr o bobl o wahanol drefi wedi casglu at ei gilydd: