20 Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau dy weld di.”
21 Ond atebodd Iesu, “Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.”
22 Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch.
23 Wrth groesi'r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo.
24 Dyma'r disgyblion yn mynd at Iesu a'i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni'n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau gwyllt; a dyma'r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel.
25 “Ble mae'ch ffydd chi?” gofynnodd i'w ddisgyblion.Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i'r gwynt a'r dŵr, ac maen nhw'n ufuddhau iddo.”
26 Dyma nhw'n cyrraedd ardal Gerasa sydd yr ochr draw i'r llyn o Galilea.