39 “Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti.” Felly i ffwrdd â'r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi ei wneud iddo.
40 Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw'r llyn, roedd tyrfa yno i'w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano.
41 Dyma ddyn o'r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu'n daer arno i fynd i'w dŷ.
42 Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o'i gwmpas.
43 Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd, a doedd neb yn gallu ei gwella.
44 Sleifiodd at Iesu o'r tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn, a dyma'r gwaedu yn stopio'n syth.
45 “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu.Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”