45 “Pwy gyffyrddodd fi?” gofynnodd Iesu.Wrth i bawb wadu'r peth, dyma Pedr yn dweud, “Ond Feistr, mae'r bobl yma i gyd yn gwthio ac yn gwasgu o dy gwmpas di!”
46 Ond dyma Iesu'n dweud, “Mae rhywun wedi nghyffwrdd i; dw i'n gwybod fod nerth wedi llifo allan ohono i.”
47 Pan sylweddolodd y wraig ei bod hi ddim yn mynd i osgoi sylw, dyma hi'n dod a syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Esboniodd o flaen pawb pam roedd hi wedi cyffwrdd Iesu, a'i bod wedi cael ei hiacháu y funud honno.
48 A dyma Iesu'n dweud wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti!”
49 Tra oedd Iesu'n siarad, roedd dyn o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly paid poeni'r athro ddim mwy.”
50 Pan glywodd Iesu hyn, meddai wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi'n cael ei hiacháu.”
51 Pan gyrhaeddodd dŷ Jairus, dim ond Pedr, Ioan a Iago, a rhieni'r ferch fach gafodd fynd i mewn gydag e.