53 Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben, gan eu bod nhw'n gwybod ei bod hi wedi marw.
54 Dyma Iesu'n gafael yn llaw'r ferch fach a dweud, “Cod ar dy draed mhlentyn i!”
55 Daeth bywyd yn ôl i'w chorff a chododd ar ei thraed yn y fan a'r lle. Wedyn dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw am roi rhywbeth i'w fwyta iddi.
56 Roedd ei rhieni wedi eu syfrdanu, ond rhybuddiodd Iesu nhw i beidio dweud wrth neb beth oedd wedi digwydd.