1 Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion,
2 “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi ei rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac
3 os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’”
4 Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi ei rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd
5 dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi'n ei wneud?”